Mab brenin o Gymro oedd Pedrog, Petroc yn Saesneg, medd ei Fuchedd, a throes oddi wrth y goron i astudio am ugain mlynedd yn Iwerddon. Yna croesodd i Gernyw a glanio wrth aber afon Camel. Daeth y lle yr ymsefydlodd ynddo yn Lannwedhenek, ac yn ddiweddarach yn Padstow, lle Pedrog.
Sefydlodd fynachlogydd yn Padstow ac yn Bodmin, lle cadwyd ei greiriau’n ddiweddarach, ac mae’n un o nawddsaint Cernyw a Dyfnaint. Mae ei Fuchedd yn adrodd i garw a helid lochesu wrth ei draed, ac iddo ei warchod. Yng Nghymru fe’i cofir yn Llanbedrog yn Llŷn, â’i bae tywodlyd, ac yn Sain Pedrog yn Sir Benfro. Ei ddydd gŵyl yw 4 Mehefin.