Roedd Elidir Mwynfawr yn dywysog ar Frythoniaid y Gogledd yng nghanol y chweched ganrif. Yn ôl traddodiad Cymru roedd yn briod ag Eurgain, merch Maelgwn Gwynedd, ac wedi marw Maelgwn daeth i Wynedd i hawlio cyfran o’r deyrnas.
Mae llyfrau cyfraith Cymru’n adrodd yr hyn a ddilynodd, mewn darn am freiniau gwŷr Arfon. Lladdwyd Elidir yn Aber Mewydus yn Arfon, a daeth brenhinoedd y Gogledd, Clydno Eidyn, Nudd Hael, Mordaf Hael a Rhydderch Hael, i’r de i ddial amdano a llosgi Arfon. Casglodd Rhun fab Maelgwn wŷr Gwynedd a gorymdeithio tua’r gogledd drwy diroedd y Brythoniaid hyd at afon Gwerydd, ac am y daith hir honno enillodd gwŷr Arfon yr hawl i arwain blaen byddin Gwynedd am byth.
Mae’r Trioedd yn cofio ei farch, Du y Moroedd, ymhlith tri marchlwyth mawr yr Ynys: cariodd saith dyn a hanner o Benllech yn y Gogledd i Benllech ym Môn.