Gwallog fab Lleënog oedd brenin Elfed, teyrnas Brythoniaid yng nghymoedd gorllewin swydd Efrog o gwmpas Leeds, ar ddiwedd y chweched ganrif. Daliodd Elfed yn deyrnas Gymreig i mewn i’r seithfed ganrif, ymhell ar ôl i’r tiroedd o’i chwmpas syrthio i’r Eingl, ac mae ei henw’n goroesi o hyd mewn pentrefi megis Sherburn-in-Elmet.
Mae Hanes y Brythoniaid yn enwi Gwallog gydag Urien, Rhydderch Hael a Morgant fel y pedwar brenin a ymladdodd yn erbyn yr Eingl yn y gogledd, ac a fu’n gwarchae arnynt ar ynys Metcaud am dri diwrnod a thair noson. Canodd Taliesin ei glod yn Llyfr Taliesin, ac mae’r Trioedd yn ei enwi gyda Dunod fab Pabo a Chynfelyn Drwsgl yn un o Dri Phost Cad Ynys Prydain.