Mae Hanes y Brythoniaid, a ysgrifennwyd yng Ngwynedd tua 829, yn gorffen â rhestr o Ryfeddodau Prydain, ac un ohonynt yw bedd Amr, mab Arthur. Mae’n gorwedd, medd y llyfr, yn y wlad a elwir Ergyng, wrth ffynnon a elwir Llygad Amr, a’r gŵr a gladdwyd yno oedd Amr, mab Arthur y milwr.
Mae’n rhyfeddod am na ellir ei fesur. ‘Daw dynion i fesur y bedd,’ medd yr awdur, ‘ac weithiau mae’n chwe throedfedd o hyd, weithiau naw, weithiau deuddeg, weithiau pymtheg. Pa hyd bynnag a fesurwch un tro, ni chewch ef yr un fath eto, ac fe’i profais fy hun.’
Mae’r ffynnon yno o hyd. Gamber Head yw hi, tarddiad afon Gamber, yn hen wlad Gymreig Ergyng yn swydd Henffordd: gwlad Onbrawst, mam Arthur, yn ôl traddodiad Cymru. Yn rhamant Gymraeg Geraint fab Erbin, mae Amhar fab Arthur yn un o’r pedwar llanc sy’n gwasanaethu yn llys Arthur yng Nghaerllion.