Mae Llacheu fab Arthur yn perthyn i’r haen hynaf o farddoniaeth Gymraeg am Arthur. Yn Pa Gŵr yw’r Porthor?, yn Llyfr Du Caerfyrddin, mae Arthur yn adrodd wrth y porthor am gampau ei wŷr, ac yn dweud i Gai a Llacheu ymladd brwydrau ynghyd, cyn gloes gwaywffyn glas.
Yn Ymddiddan Gwyddno Garanhir a Gwyn ap Nudd, hefyd yn y Llyfr Du, mae Gwyn yn adrodd am y brwydrau a welodd, ac yn eu plith: ‘Mi a fûm lle lladdwyd Llacheu, mab Arthur, uthr yn ei gerddau, pan grawciai brain ar waed.’
Mae’r Trioedd yn ei gyfrif ymhlith Tri Deifniog Ynys Prydain, gyda Gwalchmai fab Gwyar a Rhiwallon Wallt Banhadlen: gwŷr a gafodd ddysg a phob dawn fonheddig. Roedd beirdd y tywysogion yn adnabod ei enw, ac yn y rhamantau Ffrangeg bu fyw fel Loholt, mab Arthur.